Gallwn ddarparu ystod eang o offer symud a thrin er mwyn gwneud trosglwyddo yn fwy cyfforddus a diogel i chi a’ch gofalwyr. Mae’r offer yn addas i’w ddefnyddio mewn pob math o amgylcheddau gofal yn cynnwys ysgolion, cartrefi gofal, wardiau ysbyty, yn ogystal ag yn y cartref.
Mae’r offer gallwn ei ddarparu’n cynnwys:
- Teclynnau codi symudol
- Cymhorthion sefyll
- Slingiau
- Llenni sleid a chymhorthion trosglwyddo eraill
Gweithiwn yn agos gyda chwmnïau megis Invacare, Joerns a Prism i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael mynediad i’r cynnyrch mwyaf cyfoes, dibynadwy a chost effeithiol.
Cadwn fodelau amrywiol yn ein hystafell arddangos er mwyn dibenion arddangos, felly os ydych yn gyfrifol am ofal person sydd â symudedd diffygiol ac yn dymuno cymharu’r gwahanol fodelau er mwyn darganfod yr un sydd yn fwyaf addas ar eich cyfer chi a’ch cleient, dewch i mewn i’n gweld ni os gwelwch yn dda. Gallwch drefnu apwyntiad drwy ein e-bostio ar post@byw-bywyd.co.uk neu ein galw ar 01286 830 101.