Gwelyau a matresi

Gall Byw Bywyd eich cynorthwyo i dod o hyd i wely a matres sydd yn gweddu orau i’ch anghenion chi. Gallwn gyflenwi ystod eang o welyau trydanol o’r math cyfforddusrwydd addasadwy safonol i welyau nyrsio sydd yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau preswyl neu ofal tymor hir. Gall hyn hefyd gynnwys opsiynau uchder isel a bariatric.

Beds and pressure mattresses

Gall ein Therapydd Galwedigaethol, yn dilyn asesiad, gymeradwyo unrhyw un o’r canlynol:

  • Gwely addasadwy, yn eich galluogi i eistedd i fyny yn gyfforddus yn ogystal â chael noson dda o gwsg
  • Gwely nyrsio sydd yn proffilio’n llawn, yn addasadwy yn ôl uchder ac wedi ei gynllunio o gwmpas diogelwch yn nhermau codi a chario a chyfforddusrwydd y defnyddiwr
  • Gwelyau nyrsio isel sydd yn lleihau’n sylweddol y perygl o anaf drwy syrthio o’r gwely
  • Dewis cynhwysfawr o fatresi pwysedd yn cynnwys statig, hybrid a dynamig

Rydym yn cadw ystod eang o welyau a matresi yn ein hystafell arddangos, er mwyn eich galluogi i’w treialu cyn eu prynu. Neu gallwch gymryd mantais o’n cynllun “llogi cyn prynu”, sy’n golygu bod y costau llogi yn cael eu tynnu o bris y gwely os ydych yn penderfynu prynu.

Os hoffech drefnu asesiad yn y cartref gan ein therapydd galwedigaethol, neu os ydych yn dymuno gwneud apwyntiad i ymweld â’n hystafell arddangos i weld rhai esiamplau o’r nwyddau gallwn eu cyflenwi, cysylltwch â ni ar post@byw-bywyd.co.uk neu 01286 830 101.