Os ydych yn byw gyda symudedd is, gall y seddi cywir wneud gwahaniaeth mawr i’ch cyfforddusrwydd a’ch lles. Mae’r person cyffredin yn y Deyrnas Unedig yn eistedd am 9.5 awr y dydd, sy’n golygu bod darparu’r seddau cywir yn flaenoriaeth.
Gallwn ddarparu ar eich cyfer gadeiriau codi gogwyddol sylfaenol sydd yn dod mewn meintiau safonol, gyda neu heb ryddhad pwysedd, ond rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cwsmeriaid yn prynu cadeiriau wedi eu gwneud i’w mesuriadau hwy gydag eitemau ychwanegol. Cynghorwn yn gryf bod ein cwsmeriaid yn buddsoddi mewn cadair sy’n cynnwys nodweddion ychwanegol megis rhyddhad pwysedd neu gefnau â chlustogau cefnogol, gan eu bod yn caniatáu ar gyfer dirywiad yn symudedd y cwsmer.
Mewn achosion mwy cymhleth, ble mae cleientiaid wedi treulio cyfnodau hirach yn y gwely ac angen dechrau eistedd allan, neu angen cefnogaeth ystumiol oherwydd gogwydd i’r ochr, gall Byw Bywyd ddarparu asesiadau cyfannol, weithiau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau eistedd addas.
Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ddod o hyd i’r cadeiriau mwyaf addas, cyfforddus, cefnogol a diogel ac yn gweithio gyda’r arweinwyr yn y maes, yn cynnwys Primacare, Careflex a Direct Healthcare.
Os dymunwch drefnu ymweliad cartref gan ein therapydd galwedigaethol i drafod eich anghenion seddi, neu os ydych am drefnu i ymweld â’r ystafell arddangos ar gyfer arddangosiad, cysylltwch â ni ar post@byw-bywyd.co.uk neu 01286 830 101, os gwelwch yn dda.