Gwasanaethau

Yn ogystal â darparu nwyddau sy’n gwella eich symudedd, eich annibyniaeth a’ch lles, mae Byw Bywyd hefyd yn darparu’r gwasanaethau canlynol.

Gwasanaethu a cynnal a chadw nwyddau

Gall ein peirianwyr hyfforddedig atgyweirio, cynnal, profi a gwasanaethu eich offer fel nad oes angen i chi wneud hebddo. Os bydd angen i ni amnewid neu yrru eitem yn ôl, yna byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn un yn ei le tra bydd eich offer chi yn cael ei atgyweirio.

Gall ein peirianwyr hyfforddedig atgyweirio, cynnal, profi a gwasanaethu eich offer fel nad oes angen i chi wneud hebddo. Os bydd angen i ni amnewid neu yrru eitem yn ôl, yna byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn un yn ei le tra bydd eich offer chi yn cael ei atgyweirio.

Asesiadau cartref

Mae Byw Bywyd dan berchnogaeth ac yn cael ei reoli gan Therapydd Galwedigaethol cymwysedig sydd yn darparu asesiadau yn y cartref os na allwch ymweld â’r ystafell arddangos.

Os byddwch angen addasiadau yn eich cartref, neu gadair arbenigol, bydd ein Therapydd Galwedigaethol yn dewis, cyflenwi a threfnu gosodiad yr offer cywir. Mae’r nwyddau hefyd yn cael eu harddangos yn Dinas ble gallwch ddod i dreialu nwyddau megis gwelyau a chadeiriau, a thrafod eich anghenion gyda staff sydd â blynyddoedd o brofiad mewn rhagnodi’r offer cywir.

Llogi offer

Mae nifer o’r eitemau yr ydym yn eu gwerthu hefyd ar gael i’w llogi. Os ydych yn ymweld â’r ardal, yn disgwyl i gael eich rhyddhau o’r ysbyty neu’n dymuno llogi eitem cyn penderfynu prynu, byddwn yn falch i helpu. Mae sgwteri symudedd, cadeiriau olwyn, gwelyau a chadeiriau ar gael am brisiau cystadleuol, gyda’r offer llogi yn cael ei gludo’n brydlon i’ch cartref, gwesty, carafan neu leoliad gwyliau arall.

Cyngor a chyfeirio

Os na allwn ddarparu’r offer yr ydych yn chwilio amdano, rydym bob amser yn falch i gynnig cyngor a’ch cyfeirio tuag at y bobl cywir i’ch helpu. Gweithiwn yn agos gydag Awdurdodau Lleol as asiantaethau eraill fydd, o bosib, yn gallu cael mynediad i’r cyllid neu’r offer y mae’r hawl gennych i’w dderbyn.