Byw Bywyd: yn eich helpu i fyw bywyd mwy annibynnol
Byw Bywyd ydym ni. Rydym yn gwerthu, gosod ac yn llogi offer all helpu pobl hŷn a phobl anabl i fyw bywyd mwy annibynnol.
Gallwn weithio’n uniongyrchol gyda’r person fydd yn defnyddio’r offer a’r addasiadau, neu gyda’u perthynasau neu ofalwyr eraill. Gweithiwn yn agos hefyd gyda sefydliadau eraill, yn cynnwys ymddiriedolaethau’r GIG, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.
Gall Byw Bywyd helpu os ydych yn chwilio am addasiadau, gwelyau a matresi pwysedd, seddi arbenigol, cymhorthion symud a thrin, nwyddau symudedd a nwyddau traul.
Cyngor arbenigol gan cyn therapydd galwedigaethol.
Mae Byw Bywyd dan berchnogaeth ac yn cael ei reoli gan therapydd galwedigaethol cymwysedig sy’n cynnal asesiadau, naill ai ym man preswylio’r unigolyn neu yn ein hystafell arddangos, cyn cymeradwyo’r offer neu’r addasiad mwyaf addas.
Mae gennym ystafell arddangos yn Dinas, ger Carnarfon yng Ngwynedd, ble gall cleientiaid neu roddwyr gofal dreialu’r offer cyn llogi neu brynu.
Cyflewnir yr offer rydym yn ei werthu a’i logi gan rai o wneuthurwyr cymhorthion byw a symudedd gorau’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys y canlynol: