Amdanom ni

Sefydlwyd Byw Bywyd ym 1997, gan ddod yn gwmni cyfyngedig yn 2000.

Iolo Jones yw perchennog a rheolwr y busnes, therapydd galwedigaethol gwblhaodd ei gymwysterau ym Mehefin 2016.

Mae Byw Bywyd yn cydweithio’n agos gyda therapyddion galwedigaethol a darparwyr gofal eraill o fewn awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG a chymdeithasau tai ar draws Cymru. Rydym yn gweithio cyn belled â’r Wirral i’r gogledd a Powys i’r de.

Rydym yn gosod addasiadau ar gyfer darparwyr cartrefi cymunedol, ac ar restrau tendro’r cymdeithasau tai canlynol:

  • Grŵp Cynefin
  • Tai Gogledd Cymru
  • Wales & West Housing
  • Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Rydym yn gontractwr CHAS achrededig ac yn aelodau o’r BHTA.

Mae Byw Bywyd yn dîm o ddeg o bobl, gyda’r perchennog, Iolo Jones, yn cynnal yr asesiadau a gweddill y staff yn cludo’r offer, yn rhedeg yr ystafell arddangos a’r swyddfa.

Rydym yn falch o allu darparu ein holl wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, os yw ein cleientiaid yn dymuno hynny.

Cysylltwch â ni

Cyfeiriad

Byw Bywyd (Living Life) Cyf., Dinas, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7YN

Ffôn

01286 830 101

Ebost

post@byw-bywyd.co.uk