Addasiadau

English

 

Ystafelloedd ymolchi a chawodydd i bob lefel o symudedd

Mae adran gosod Byw Bywyd yn wasanaeth arolwg a gosod i ystafelloedd ymolchi, mannau cawod a cheginau. 'Rydym yn cynnig arolwg di dâl, ble bydd un o'n cynllunwyr profiadol yn trafod eich anghenion a chydweithio a chi i greu eich ystafell ymolchi neu gegin berfaith.

Yn cynnwys...

  • Cawodydd lefel isel a mynediad gwastad
  • Toiledau cawod
  • Canllawiau mewnol ac allanol
  • Teclynnau codi
  • Rampiau

Os penderfynwch gario ymlaen, yna bydd ein tîm o weithwyr yn gweithio'n effeithiol, heb achosi trafferth i chi.

Mae ein gwaith wedi ei warantu am 12mis. Mae nwyddau unigol yn dod gyda gwarant y gwneuthurwr.

Am rhagor o fanylion, cysylltwch a ni ar 01286 830101, galwch i mewn i'n canolfan yn Dinas, Caernarfon, neu anfonwch e-bost.